top of page

Clothes Line

Meirion Ginsberg 2017

Oil on canvas

£2250

 

’Tasech chi’n edrych i lawr o ffenest Mr Williams, basech chi’n gweld siapiau geometrig grŵp o erddi taclus.  Gwnaethpwyd tipyn o ymdrech i gadw’r sietynau’n ddestlus rhwng y pedair gardd.  O’u croestoriad maen nhw’n rhedeg allan fel pedair wal – waliau sy’n tueddu i ymlacio mae’n rhaid dweud.  Atgyfnerthir effaith strwythur pedrochrog y gerddi a’u gwrychoedd gan gwareli tŷ gwydr Mr Jones stryd nesa.

 

’Tasech chi’n edrych i lawr ar fore dydd Llun braf, basech chi’n gweld Mrs Williams yn adlewyrchu’r siapiau onglaidd yr olygfa, wrth i’r ddynes fach gron godi’r lein dillad gyda pholyn enfawr.  Mae ei pholyn a’i lein yn ychwanegu siâp pen saeth eang i’r diagram.

 

Ond fasech chi byth yn cael eich gwahodd i mewn i stafell Mr Williams, nac hyd yn oed i fynu’r grisiau o gwbl.  Yn wir doedd neb wedi cael eu croesawu i mewn i dŷ Williams ond i’r gegin a deimlodd yn fwy o estyniad i’r ardd nag estyniad y tŷ.

 

O leiaf unwaith y mis, ond byth ar ddydd Llun, byddai Mr Jones yn dod rownd efo’i beiriant torri lawnt, neu Mr Price o ddrws nesa i dacluso’r sietyn.  Bob tro bydden nhw’n cael panad o de yn y gegin.  Bob tro byddai Mrs Williams yn mynd â phanad i fyny i Mr Williams, a dod â chwpan wag ei frecwast yn ôl i lawr.

 

’Doedd neb wedi gweld Mr Williams ers misoedd, ers blynyddoedd efallai.  Ond mae ei ddillad o ar y lein efo’i dillad hi, bob wythnos.  Mae ffenestri ei ystafell wely ar agor fel arfer pan mae’r haul yn tywynnu ac mae’r gwynt yn ysgafn.  Ond fasai wyneb Mr Williams byth yn dod i edrych i lawr ar siapiau’r ardd.

 

Un diwrnod dros eu paneidiau, gofynnod Mrs Williams i Mr Jones am ei gyngor ynglŷn â thai gwydr.

 

“Mae Mr Williams yn hoffi llysiau ffres o’r ardd.  Mi allen ni estyn tymor y tyfu, ac mi allwn i fynd â mwy o ffrwythau i’r cyfarfodydd yn y neuadd.”

 

Daeth Mr Jones â phamffledau y tro nesa ac o fewn wythnos roedd Mrs Williams wedi gosod archeb am un bach i fynd nepell o ddrws cefn y tŷ.  Daeth dau ddyn ifanc clên i balu twll ar gyfer y sylfaen goncrid.  Daethon nhw i mewn am banad wrth gwrs a chlywon nhw holl hanes Mr a Mrs Williams.  Y diwrnod nesa bydden nhw’n ôl efo’r concrid.

 

Liw nos, dyna Mrs Williams efo caib a rhaw, yn mynd ati i wneud twll bach dwfn yng nghanol twll bas eang y dynion ifanc.  I mewn i’r twll â sach drwm a’i gorchuddio gyda phridd a cherrig.

 

----------

 

Bob dydd Llun braf, allan yr âi Mrs Williams â’i dillad hi a Mr Williams.  I fyny yr âi llinell y dillad i ddangos i’r holl gymdogion bod busnes fel arfer yn nhŷ a gardd Williams.

 

Bob yn ail wythnos doi Mr Jones neu Mr Price, neu’r ddau ohonyn nhw, i dacluso’r lawnt neu’r gwrych.  Bob tro caen nhw banad yn y gegin a hanes diweddara’ Mr Williams – hanes oedd gair am air yr un fath â’r wythnos gynt.  Ond rŵan byddai bag o gynnyrch y tŷ gwydr i fynd adre’ hefyd.

 

Un dydd Llun, a dillad gwely ar y lein o ben bore, bant â Mrs Williams i dalu biliau’r Cyngor a chasglu pensiwn y ddau ohonynt.  Ond ar ôl dychwelyd adre’ aeth hi’n syth rownd at Mr Jones.

 

“Mae Mr Williams wedi diflannu.  Roedd o lawr llawr er mwyn i mi newid y dillad gwely.  Roedd o’n llonydd efo panad wrth i mi fynd i’r dre’.  Ond ’does ’na siw na miw ohono fo, i fyny’r grisiau, lawr llawr, nac yn yr ardd chwaith.  Roedd drws y ffrynt wedi’i ddatgloi ond welais i mo’no fo yn y stryd.”

 

Wrth i’r heddlu gyrraedd, roedd Mr Jones yn eistedd ym mharlwr Mrs Williams i gadw ei meddyliau’n dawel.  Dechreuodd Mrs Williams esbonio eu rhigolaeth wythnosol heb unrhyw anogaeth gan y plismyn, mewn gwirionedd cyn iddyn nhw gael cyfle hyd yn oed i gyflwyno eu hunain.  Dangosodd hi’r cwpan, y soser a’r plât efo briwsion bisgedi arno, ar fwrdd bach ger hoff gadair Mr Williams.  Wedyn aeth hi â nhw i’r gegin a’u rinsio dan ddŵr poeth.  Yn ôl y daeth hi efo clwtyn a chan chwistrellu cwyr gwenyn.

 

“Ac edrychwch ar y llanast ’ma,” meddai hi wrth iddi sgleinio breichiau pren y gadair, gan ddileu unrhyw dystiolaeth o bresenoldeb Mr Williams.  Gallwn ni fod yn siwr bod popeth i fyny’r grisiau wedi cael triniaeth drylwyr y can a’r cadach hefyd.

 

“Dwn i ddim beth fydda i’n ei wneud heb Mr Williams,” meddai hi, gan ei draddodi i ebargofiant parhaol o fewn hanner awr o ddarganfod ei absenoldeb.

 

“Ydy hi’n iawn i ni edrych o gwmpas y tŷ a’r ardd, Mrs Williams?” gofynnodd y blismones ifanc oedd dan oruchwyliaeth ei chydweithiwr hŷn.

 

Edrychon nhw yn fanwl ym mhob ’stafell a chwpwrdd.  Yn yr ardd gofynnon nhw unwaith eto am ei threfn wythnosol, edmygon nhw’r tŷ gwydr a gofynnon nhw ers faint oedd o’n sefyll yno.

 

Ar ôl ychydig funudau o sibrwd wrth ei gilydd a phwyntio at eu nodiadau, gofynnodd yr un hŷn i Mrs Williams a oedd hi’n fodlon mynd i’r orsaf heddlu efo nhw.

 

“Ond beth ’tasai fo’n dod yn ôl a’r tŷ’n wag?”

 

“Bydd rhywun yma o adran arbenigol, i’n helpu ni i ddarganfod beth sydd wedi digwydd,” meddai’r un ifanc, wrth geisio ei gorau i swnio’n gefnogol a chyfeillgar.

 

“Basai fo’n ddryslyd iawn, ’tasai fo’n dychwelyd heb fy mod i yma,” dadleuai hi.

 

Ond doedd hi ddim wedi cael ei magu i ddadlau efo plismyn, nac hyd yn oed efo plismonesau ifanc.  Felly, “Iawn,” meddai hi braidd yn anfodlon.

 

Wrth iddyn nhw agor drws eu car iddi hi, dyna Mr Price yn cerdded i lawr y stryd, braich ym mraich efo Mr Williams.

2019

bottom of page