Richard B Gillion
Y Dwyrain Pell
Roedd wedi bod yn daith hir. Yr holl ffordd o gartref. Yr hedfan. Y cerdded. Ffurfiau trafnidiaeth, weithiau fel twrist, weithiau fel person lleol, neu hyd yn oed fel eitem o fagiau. I’r golwg achlysurol, dyma bentref swnllyd, llychlyd arall, efo’i seiniau a’r gweithreddau arferol. I’r arsyllwr allanol, dyma ymweliad arall ar fy nghylchlen. Ond yr adeg hon roedd gwahaniaeth enfawr.
Wedi amsugno teimlad y lle, y lliwiau, y synnau, yr aroglau, daeth yr amser i mi adael y pentref hwn, a’r math hwn o bentref, er mwyn fy narganfod fy hun, a phosibiliadau newydd.
Wrth i mi aros am y bws, penderfynais wrando ar gryno-ddisg roeddwn wedi ei brynu yn gynharach yr wythnos hon. Nodau rhyw offeryn dieithr. Doeddwn i ddim yn disgwyl rhythm troed-dapio, ond roeddwn yn disgwyl darn o gerddoriaeth efo ryw ddolen i afael ynddi. Penderfynais adael i’r nodau gyd-fynd â synau’r dref nes iddyn nhw gyfuno gyda’i gilydd.
Cefais bwt gan rywun arall yn y ciw. Pan edrychais i fyny, dyna lle roedd y bws. Ac yno, ar y wal isel gyferbyn â ni, roedd chwaraewr rhywbeth yn debyg i sitar, yn tiwnio i fyny, ac yn chwarae’r un ymadrodd cerddorol, drosodd a throsodd, yr un dilyniant o nodau ag oedd ar fy nghrynoddisg. Roedd fy nghlustffonau yn eu lle, ond doedd fy chwaraewr ddim ymlaen. Rhaid fy mod wedi bod yn breuddwydio. Doeddwn i ddim wedi switsio fy chwaraewr ymlaen o gwbl.
Ar y bws efo sêt i mi fy hun a’m bag ysgwydd, edrychais o’m cwmpas gan geisio peidio â bod yn rhy amlwg. Roedd ’na ddynion efo sachau o lysiau, a merched efo rholiau o ddefnydd, neu gewyll o ieir. Roedd rhai yn pendwmpian o fewn munudau, a rhai eraill yn sgwrsio’n egnïol.
Pob dwy neu dair milltir, stopiodd y bws ac aeth grŵp neu ddau o bobl oddi arno. Wrth i’r clebran ddiffod, gwthiais y botwm chwarae ar fy nheclyn, a gallwn fod wedi tyngu bod y diwn yr un peth yn union ag yr un roedd yr hen chwaraewr sitar yn ei chwarae. Edrychais yn fanwl ar fy chwaraewr cryno-ddisgiau – yn sicr roedd disg yn y peiriant, ac roedd yn cylchdroi. Tynnais un o’m clustffonau. Roedd y sŵn yn dod o’r peiriant, nid o ryw chwaraewr anweledig oedd yn cuddio ar y bws.
Cefais fy neffro gan ysgytiad wrth i’r bws lywio rhan arbennig o arw ar y ffordd. Roedd y gerddoriaeth yn dal i chwarae, er bod fy narn-glustiau wedi’u disodli. Troais o gwmpas a dyna lle roedd y dyn efo’i sitar, neu beth bynnag oedd yr offeryn. Roedd rhaid i mi ei wynebu a’i herio. Ond oedd gynnon ni iaith yn gyffredin? Sut dych chi’n cyhuddo rhywun o ymyrryd â’ch breuddwydion?
Edrychais ar fy wats ac ar gyfeiriad cysgodau’r coed am gadarnhad. Gwnes i amcangyfrif bod ’na dri chwarter awr cyn i ni gyrraedd y cyrchfan, sef diwedd y ffordd. Roedd rhaid i’r dyn fod yn mynd i’r deml. Byddwn yn siarad ag o wedyn.
Er gwaethaf y lleoliad egsotig, doedd ’na ddim llawer i’w weld – roedd y coed yn rhy agos. Roedd ceisio canolbwyntio arnynt yn fy ngwneud i’n bensyfrdan. Well i mi gau fy llygaid a gadael i’r gerddoriaeth fy helpu ymsuddo i lefel is o ymwybyddiaeth.
Dyna wich o’r brêcs a diwedd y ffordd. Doeddwn i ddim ar frys i adael y bws oherwydd y dyn efo’r offeryn llinynnol, oedd yn dod â’i dôn i ben. Wrth droi i’w weld o’n straffaglu efo’i sitar, neu beth bynnag oedd o, welais i ddim ond seddi gwag yr holl ffordd i gefn y bws. Switsiais fy chwaraewr bant. Doedd popeth ddim yn taro deuddeg. Byddai’r awyr ffres yn dod â fi ataf fy hun. Ymddiheurais i’r gyrrwr a diolch iddo’n frwd. Camais oddi ar y bws, gan giledrych trwy’r cysgodion cryfion.
Arwyddwyd y llwybr i’r deml yn dda ac roedd yn amlwg i’w ddilyn. O fewn pum’ munud roeddwn mewn llannerch efo cylch o ddynion yn eistedd yn ddisgwylgar. Troeson eu hwynebau tuag ataf yn wenau i gyd. Roedd y distawrwydd yn gweiddi arnaf. Wedyn camodd dyn i mewn i’r cylch. Roedd ei wyneb yn adnabyddus ar unwaith, hyd yn oed heb ei sitar.
Dwedodd yn glir iawn, “Croeso.”
2018