Richard B Gillion
Y Damwain
Roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy. Beth goblin oedd yn digwydd o’m cwmpas i? Roedd rhybeth ofnadwy wedi digwydd, ond beth? Roedd yn dod yn ôl ata i, ac wedyn diflannu.
Daeth llais swyddogol i’m clust dde: “Chi’n iawn, Syr?”
Trwy flerder fy meddwl, teimles i law plismon yn f’ysgwyd i. Mi oedd ei fraich yn estyn i mewn trwy ffenest’ agored fy nghar.
“Beth sy wedi digwydd, Syr?” gofynodd o.
Roedd popeth yn dwad yn ôl yn araf iawn, yn ymddangos trwy niwl fy meddwl, darnau yn dod at ei gilydd o gyfeiriadau gwahanol.
“O’n i’n gyrru ar hyd y ffordd,” dechreuais i yn eitha’ betrusgar, “pan ddaeth rhyw foi-raswr rownd y cornel. Roedd rhaid i mi wyro i’w osgoi o. Mi golles i reolaeth, taro rhywbeth a llewygu.”
“Nage, Syr,” meddai’r plismon, “mi syrthioch chi i gwsg ar y golau coch a ro’ch chi’n breuddwydio. A phan newidiodd y golau yn werdd, a symudoch chi ddim, mi gawsoch chi’ch taro gan y car y tu ôl. Dyna fo – wedi’i glynu’n sownd i’ch bymper cefn.”
2018