Richard B Gillion
Y Cyfarfod
Fel John Wesley gynt, mi es i braidd yn anfodlon i’r cyfarfod misol. Ond mewn gwrthgyferbyniad llwyr i brofiad y parchedig Mr Wesley, ni ddaeth unrhyw droedigaeth i drawsffurfio fy mywyd, nac i esmwythau fy niflastod. ’Does dim syndod yn hyn o beth, gan mai cyfarfod misol ein cymuned oedd hwn.
Mi gaeth fy ofnau gwaethaf eu cyflawni. Roedd y cyfarfod yn hollol annymunol o’r dechrau hyd at y pwnc olaf. Dan bron bob eitem ar yr agenda oedd ’na ryw adroddiad neu’i gilydd, bob un yn fwy diflas na’r un diwethaf.
Roedd fel petawn i wedi dihuno o freuddwyd (neu hyd yn oed o hunllef) pan ddwedodd y cadeirydd, “Wela’ i chi i gyd mis nesa ’te.”
Er mwyn i mi beidio â dychwelyd mewn hwyliau drwg, mi bicies i i mewn i Dafarn yr Afr ar fy ffordd adre’.
“Pam mae’r enw’n cyfeirio at Afr, dwn i’m o gwbl,” meddyliais i. “’Does dim gafr o fewn pum milltir o’r lle, hyd y gwn i.” Allwn i ddim cofio gafr fel cefnogwr herodrol ar arfbais unrhywun lleol, nac unrhywun o gwbl, ’taswn i’n onest. Mi allwn i ddeall llew, uncorn, arth neu ddraig, ond dim gafr.
Rhan o’m hwyl ddrwg oedd y meddyliau hyn, ac o fewn pum munud o’n i’n eu rhannu nhw efo dyn diarth wrth y bar. O fewn pum munud arall o’n ni’n eistedd efo’n gilydd wrth y tân, cyn belled â phosib i ffwrdd o griw ifanc oedd yn gwylio’r teledu mud ond yn gwneud iawn am ddiffyg y sain dwywaith o leia’.
Wrth i’r dieithryn ddechrau siarad o’n i’n meddwl fy mod i ar fin cael darlith mor ddiflas â’r cyfarfod o’n i newydd ei adael. Ond yn fuan iawn gwnaeth y dyn sôn am Syr William Owen oedd yn dirfeddiannwr cyfoethog yn yr ardal hon tua dau gan’ mlynedd yn ôl. Yn wir roedd y dieithryn yn chwilio am ddisgynyddion Syr William, gan doedd neb wedi disgyn yn uniongyrchol o linell wrywaidd Syr William ers tair cenhedlaeth o leia.
Mi o’n i mewn breuddwyd arall am sbel. Plentyn yn nhŷ fy Nain a Thaid ro’n i ar sgrîn fy nheledu mewnol.
“Disgynyddion o’r hen Syr William Owen ydyn ni, ’sti,” meddai Nain ar sawl achlysur.
Roedd ateb fy Nhaid yr un bob tro, “Paid â rwdlian, Meg, paid â rwdlian!”
Rhaid fy mod i wedi siarad y geiriau hynny’n uchel, oherwydd ddes i’n ymwybodol yn sydyn o’r dieithryn oedd yn edrych fel petawn i wedi’i dramgwyddo.
“Geiriau fy Nhaid,” esboniais i yn gyflym, “Pryd bynnag y soniai fy Nain ei bod hi’n ddisgynyddes o Syr William.”
“Beth oedd enw eich Nain?”
“Fy nain fach oedd hi - Margaret Jones, ond Margaret Bowen cyn iddi hi briodi Elfan Jones.”
Efo rhyw fath o rwysg, mi dynnodd y dieithryn siart allan o boced ei gôt. Roedd yn goeden deulu gymhleth efo llawer o ganghennau ochr. Ond ar ddiwedd y gainc hiraf roedd enw Margaret Bowen ac yno cyn Margaret oedd enw digamsyniol fy hen-daid Ebeneser Iehosaphat Bowen.
“Sut aeth y cyfarfod,” gofynnodd fy ngwraig, wrth i mi gau drws y ffrynt ar fy ôl i.
“Yn hollol, hollol wych,” meddwn i, yn wên i gyd.
“Wedi colli arno’i hun yn hollol y mae o,” meddyliodd hi.
2018