Richard B Gillion
Trwy Ffenest
Ar daith yr ysgol i’r hen abaty adfeiliedig.
Dyna’r ffenest’ enfawr eto.
Pam oedd cynlleied o’r hen adeilad ar ôl?
’Mond y ffenest’ oedd yn uwch na phennau’r oedolion.
Ond y tro ’ma wrth gamu i mewn
i gorff yr eglwys dros y wal isel,
nid gwrthrych ydy’r ffenest’,
ond ffrâm i weld y byd drwyddo.
I’r chwith – coed. I’r dde – tai.
Trwy’r ffenest’ – cymysgedd o’r ddau ar y gorwel
yn addas i fod yn llun pos jig-so,
gydag ymyl ffansi.
Trwy’r dydd ehedai awyrennau
ond yn anymwybodol ohonynt des i ymhen ychydig.
Nid felly pan gododd hofrennydd, dros goed a thai
Am funud neu ddau yn anelu’n syth ataf drwy’r ffenest
Fframiwyd eicon oes fodern gan wrthrych canoloesol.
Ychydig belydrau o haul i’n goleuo
ond eto digon o gymylau sy’n bygwth ein heneinio
Ni’n synfyfyrwyr yn yr abaty
a'r chwaraewyr ar y glaswellt yr un modd.
Aeth y synnau oedd ar fy ôl –
y sblasio yn yr afon, a chleciau’r gêm criced,
ynghyd â’r gweiddi a’r chwerthin –
’ma’s o’m hymwybyddiaeth.
Yn ddwfn i mewn gwawriodd llygedyn
fel eiliad o oleuadigaeth:
’Sdim angen mynd ar daith ysgol
i weld y cyfoes trwy ffenest’ hanes.
2018