Richard B Gillion
Rhodri
Roedd gan Rhodri broblem fawr.
“Paratoa, Rhodri! Dyn ni’n mynd i weld Anti Ethel heddiw.”
Dechreuodd Rhodri gynhyrfu. Sut yn y byd oedd o i ymdopi efo’r ymweliad i dŷ Anti Ethel? Ond yn gyntaf, roedd rhaid iddo fod yn ofalus sut i ateb ei fam. Roedd o’n nerfus am ddweud “Iawn,” oherwydd roedd pethau’n bell o fod yn iawn wrth feddwl am fynd i dŷ Anti Ethel.
“Fydda i ddim yn hir iawn,” oedd ei ddewis.
Wrth iddo wisgo’r dillad yr oedd ei fam wedi’i osod ar y gadair ei gyfer o, roedd o’n dyfeisio ac ymarfer strategaethau er mwyn ymdopi efo cwestiynau anochel ei Fodryb. Wrth iddo frwsio e ddannedd, trefnodd y cwestiynau mewn dwy restr – y rhai y gallai o ateb iddyn nhw’n onest, a’r rhai y byddai eisiau rhyw strategaeth arall.
---------
Yn ôl yr arbenigwyr, roedd gan Rhodri ddwy broblem – awtistiaeth a llewygu. Er gwaethaf arbenigedd yr arbenigwyr, gwyddai Rhodri nad oedden nhw’n union iawn, ac yntau ddim ond wyth oed!
Roedd popeth yn iawn cyn ei bedwerydd pen-blwydd. Roedd o wedi dweud anwireddau o’r blaen. Roedd wedi bod yn rhyw fath o gêm – dweud storïau a rhannu syniadau fyddai neb yn eu credu nhw. Ond ar ddydd ei benblwydd, ceisiodd am y tro cyntaf erioed ddweud celwydd – dweud rhywbeth efo’r pwrpas o wneud i’w rieni ei goelio fo.
“Mae’n braf gweld Andrea, yntydy?” Roedd yn gwybod y byddai ei fam yn ddig petasai’n dweud, “Nac ydy.”
Ar ôl ychydig eiliadau o feddwl, ac yn groes iawn i’r golwg ar ei wyneb meddai “Ydy.”
A chyn gynted ag y dywedodd hun, i ffwrdd fel golau yr aeth o.
O safbwynt Rhodri arafodd popeth fel fideo ar “araflun”. Roedd yn ymwybodol o bob person, pob symudiad, pob gair. Heb godi o’r llawr, gallai ymsymud o gwmpas ei gorff, o gwmpas y ’stafell. Nid gweld yn union yr oedd o, ond teimlai fel lliwio llun o’i gof. Daeth manylion bach yn ôl iddo, manylion a fyddai fel arall wedi diflannu i ebargofiant am byth.
Teimlai Rhodri fel tasai wedi bod allan o’i gorff am hanner awr o leia’. Daeth i’w feddwl y dylai fo ddychwelyd at ei gorff. Cyn gynted ag y penderfynodd wneud hynny, dyna fo’n eistedd i fyny a dweud, “Dw i’n ôl rŵan, gawn ni chwarae gêms?”
---------
Yn fuan iawn dysgodd Rhodri fod ’na ddwy ran i’r sbardun i’w episodau – y bwriad i dwyllo a’r celwydd ei hun. Roedd dweud storïau dychmygol yn iawn. Roedd dweud jôcs yn iawn. Dim ond y cyfuniad o gelwydd a’r bwriad i dwyllo fyddai’n achosi ei lewygfeydd. Wnaeth ei deulu byth sylweddoli’r cysylltiad union rhwng y celwyddau a’i broblem. Roedden nhw’n tybio mai sefyllfa gymdeithasol letchwith oedd y sbardun.
Dros y blynyddoedd dysgodd Rhodri strategaethau i osgoi sefyllfaoedd peryglus. Dwedodd o’r gwir yn amlach nag sy’n arferol wrth ei deulu, ffrindiau a dieithriaid. Ond byddai’n dweud, “Hoffwn i chi wybod bod ...” pan oedd yn hollol angenrheidiol talu canmoliaeth ffug. Aeth popeth yn iawn hyd nes i “ffrind” ddweud, “Hoffet ti ddim i mi wybod byddet ti’n hapus i chwarae efo fi. Hoffet ti i mi feddwl byddet ti’n hapus i chwarae efo fi.”
Sylweddolodd Rhodri fod ei fformiwla’n gelwydd hefyd o dan y diffiniad llym o “wybod”. O’r diwrnod hwnnw ymlaen, roedd y fformiwla honno allan o ffiniau.
---------
Roedd ’na ochr bositif i’w broblem. Yn ystod ychydig eiliadau ei absenoldebau, treuliai Rhodri rai munudau yn gweld ac yn clywed yn glir iawn bopeth oedd wedi digwydd dros gyfnod tebyg o’r blaen. Ac nid gweld a chlywed yn unig, ond arogli yn fanwl a theimlo’r symudiadau lleiaf. Wrth iddo ddysgu rhoi popeth at ei gilydd roedd fel petai’n deall meddyliau, teimladau a bwriadau pobl eraill hefyd mewn fideo aml-ddimensiynol. Dysgodd Rhodri i ddefnyddio’r cofnodion gwerthfawr hyn yn dda, gartref ac yn yr ysgol. Gwnaeth gynnydd eithriadol yn yr ysgol, er gwaethaf ei ddiagnosis. Ychydig a wyddai ei rieni na’i athrawon mai ffynhonnell wych o wybodaeth a dealltwriaeth oedd ei lewygu.
----------
Ar ddydd Nadolig a Rhodri’n ddeg a hanner oed, agorodd amlen oddi wrth ei fodryb. Siec am gant o bunnoedd a cherdyn rhyfeddol oedd ynddi. “I fy nai arbennig,” meddai’r cerdyn, “Yr unig un sy’n falch o’m gweld i.”
Bron iddo lewygu yn y fan a’r lle wrth ddarllen y neges ac oglau ei sent oedd yn ymdreiddio allan o’r amlen. Dychmygodd ei hun yn edrych yn ôl arni hi mewn penbleth, yn ansicr sut i ymateb iddi hi. Roedd o’n ddiolchgar nad oedd hi yno mewn person.
Y bore Llun nesa aethon nhw, Rhodri a’i fam, i’r Gymdeithas Adeiladu i dalu ei anrheg i mewn i’w gyfrif. Ar ôl cerdded ar hyd y Stryd Fawr a’r addurniadau Nadolig yn edrych mor ddi-liw yn haul isel y bore, aethon nhw i mewn i’r adeilad mawreddog trwy’i ddrysau trymion.
Tybed faint o Antis Ethel sy wedi anfon sieciau i’w hoff neiaint y Nadolig hwn? Yno o’u blaenau roedd cynffon hir o famau a’u meibion bob yn ail yn ymestyn tri chwarter y ffordd o’r cownter i’r drysau. Diolch byth, roedd y ciw yn symud. Doedd dim siopwr efo bagiau o arian mân i’w dalu i mewn.
Agorodd y drysau wrth i dri dyn ddod i mewn efo’u cotiau tew dros eu breichiau. Ar ôl i Rhodri astudio’r ciw a’i batrwm symetrig am funudau, tarodd y tri newydd-ddyfodiad y bachgen fel rhywbeth od iawn. Synhwyrodd yn ddwfn ym mêr ei esgyrn fod rhywbeth o’i le, ond beth? Roedd yn glir eu bod nhw’n anesmwyth. Roedd yn amlwg o’r ffordd roedden nhw’n cyfnewid cipolygon efo’i gilydd. Petai’n medru cael gafael ar fwy o wybodaeth.
“Does dim ots gen i os ydych chi eisiau mynd o’m blaen i”? - Na. Mae’n rhy agos at y gwir. Ha! Dyma ni! Gan edrych ar y dyn nesa, ac mewn llais eglur, dwedodd, “Allech chi fynd o’n blaen ni, ’does dim ots gan fy mam.”
Ac yn syth i lawr aeth Rhodri yn glewt. Trodd ei fam yn ôl i’w weld yn taro’r llawr sgleiniog efo clep fawr.
Nid, “O fy mab bach druan,” ddaeth o’i cheg, ond, “O na! Dim eto, Rhodri!”
O safbwynt Rhodri, doedd dim clep ar unwaith. Roedd ei synhwyrau’n llawn o’r munud a hanner cynt. Sgrech y drws wrth i’r graean mân gael ei rygnu ar draws teils y llawr. Cipolwg ar dri ffigwr oedd yn straffaglu efo’r drws wrth iddyn nhw ymbalfalu i gadw rhywbeth cuddiedig dan y cotiau ar draws eu breichiau. Gynnau! Wel, un gwn o leia’. Wel, cipolwg o rywbeth tywyll, metelaidd dan gôt y dyn cyntaf.
Wedyn, anadlu’n drwm, yn drymach nag oedd yn rhaid i wthio’r drws ar agor. Yr arogl – chwys dynion heb gotiau ar ddiwedd mis Rhagfyr. Yr edrychiadau rhwng y dynion wrth iddyn nhw sylweddoli bod ’na lawer mwy o gwsmeriaid nag oedden nhw’n eu disgwyl. Symudiadau eu hesgidiau danynt wrth iddynt feddwl beth i’w wneud. Wedyn, ei lais ei hun – pob sillaf – wrth iddo siarad â’r dyn drwg. Y glep wrth i’w gorff daro’r teils. Ac, yn olaf un, llais ei fam.
Anwybyddodd Rhodri naws ei fam oedd yn llai na charedig, a daeth ato’i hun. Cododd o’r llawr yn benderfynol, brasgamodd yn syth at y cownter a safodd rhwng y ddau fachgen balch oedd yn talu eu sieciau i mewn. Defnyddiodd y pin ar y cownter i ysgrifennu neges ar gefn ei siec mewn llythrennau bras: “Mae gan y dynion yn y cefn ynnau. Gwnewch rywbeth!”
Estynnodd o flaen y bachgen swil i’r dde iddo, gan ddweud trwy’r ffenest, “Sori, well i chi edrych ar hyn.”
Edrychodd y clerc i fyny ar Rhodri, i lawr ar y siec efo’i neges, i fyny ac i lawr unwaith eto. Ceisiodd Rhodri edrych mor ddifrifol â phennaeth yr ysgol yng nghynulliad y bore, llygad yn llygad, wrth amneidio’n ddifrifol efo gogwydd lleiaf ei ben.
Daeth sŵn o’r tu ôl iddo – mam y bachgen swil oedd yn clirio ei gwddf, yn barod i fynegi ei dicter. Daeth sŵn o’i flaen wrth i gaeadau tu ôl i’r ffenest y cownter syrthio. Dim ond y dyn olaf, yr un oedd agosa’ at y drysau mawr, glywodd y glec wrth i gloeon y drysau mawr ymgysylltu. Dim ond un bachgen chwilfrydig glywodd gamerâu’r nenfwd yn troi wrth iddynt anelu’n syth at y darpar ddrwgweithwyr ac ail-ffocysu eu lensys. Dim ond grŵp bach tua’r cefn glywodd si’r ffroenellau uwchben y dynion drwg yn chwistrellu niwl tenau arnynt. Clywodd pawb sŵn y dynion yn syrthio i’r llawr mewn pentwr blêr. A sŵn arall wrth i fam Rhodri glanio ar eu pennau.
Y datblygiad diweddaraf hwn a’u rhwystrodd rhag symud nes i’r heddlu arfog gyrraedd.
----------
Anerchodd y Maer y gynulleidfa yn y seremoni gwobrau dewrder. Wedyn cafodd Rhodri ei alw i fyny i’r llwyfan.
“Mae’n rhaid fod arnat ti ofn,” meddai’r Maer.
“Oedd,” atebodd Rhodri, gan feddwl tybed a oedd hynny’n wir.
“Sut oeddet ti mor sicr eu bod nhw ar fin ysbeilio’r banc?
Heb feddwl meddai, “Jyst rhyw deimlad ges i.” O na! Dyma fo’n dod. A chaeodd ei lygaid ac aros. Teimlodd ymyl y dibyn yn ymrithio o’i flaen o. Ond y tro ’ma dewis Rhodri oedd o, p’un ai i fynd drosodd ai peidio. Cymerodd gam yn ôl yn ei feddwl. Agorodd ei lygaid.
“Rŵan ’ta,” meddyliodd, “Dyna rywbeth defnyddiol!” dan wenu o glust i glust.
2019