top of page

Rhiannon a Gwenno

Aeth y dair merch i weld eu hen fodryb ac i dreulio wythnos olaf gwyliau'r haf efo hi yn y wlad.  Doedd dim llawer o le ym mwthyn Anti Ann.  Roedd gwely Sara, y ferch hyna, o dan y ffenest yn yr ystafell fyw.  Rhannodd yr efeilliaid Rhiannon a Gwenno fynciau mewn ystafell wely gul yn un pen i’r bwthyn.  Roedd ystafell Anti Ann yn y pen arall.

Roedd Rhiannon a Gwenno fel dwy bysen mewn cod - yr un taldra ac efo'r un steil gwallt.  Yr unig wahaniaeth i'r arsyllwr achlysurol oedd bod Rhiannon yn gwisgo rhywbeth pinc o hyd, ac ni wisgai Gwenno byth ddim byd pinc, i blesio neb.  Ond, nid byth yn union: byth tra oedd hi'n Gwenno.  Dim ond i wneud castiau wrth esgus bod yn Rhiannon fyddai hi'n gwisgo unrhyw beth pinc.  A welodd neb mo Rhiannon erioed heb iddi fod yn gwisgo rhywbeth pinc - ac eithrio wrth iddi'n esgus bod yn Gwenno.  Yr unig rai fedrai wahaniaethu rhyngddyn nhw efo unrhyw sicrwydd oedd eu rhieni a'u chwaer Sara.

Penderfynodd yr efeilliaid gyfnewid hunaniaethau bob yn ail ddiwrnod.  Doedd golwg Anti Ann ddim mor dda y dyddiau hyn, a chawson nhw Sara i addo eu helpu nhw, yn gyfnewid am sedd flaen yng nghar eu tad, yr holl ffordd yno a’r holl ffordd adra.

Yr ail ddiwrnod, ar ôl cyfnewid eu dillad a'u henwau, aethon nhw allan ar eu beiciau, tra aeth Sara efo Anti Ann i’r dre ar y bws.

Roedd Gwenno'n gwisgo tracwisg binc Rhiannon a'i helmed binc hefyd.  Roedd Rhiannon yn ddu a gwyn i gyd.

Arhoson nhw i gasglu mwyar duon oedd yn tyfu ger adwy cae fferm. Ar ôl bwyta sawl llond llaw ohonyn nhw, cododd Rhiannon ei beic ac o fewn munud roedd hi'n reidio i fyny ac i lawr y lôn a throi mewn cylchoedd wrth iddi aros am Gwenno.  Erbyn hyn roedd Gwenno yn cydbwyso ar ben y giât ac yn ymestyn am un clwstwr olaf o fwyar duon oedd yn arbennig o lawn sudd.

Yn sydyn clywodd sŵn a gwelodd gwmwl o lwch yn dod yn syth ati hi ar draws y cae.  Yng nghanol y cwmwl oedd tarw du mawr.

Efo sgrech, llamodd hi i lawr oddi ar y giât, gan anghofio'n llwyr am y mwyar duon.  Cipiodd ei beic, neidiodd arno, a bant â hi i fynu'r lôn ar ôl ei chwaer, heb sylweddoli bod yr giât yn siglo ar agor.

Y bore wedyn roedd y ddwy yn wisgo eu dillad priodol ac yn ateb i’w henwau priodol.  Roeddan nhw’n paratoi i fynd allan ar eu beiciau eto, pan ddaeth cnoc ar ddrws y bwthyn.  Aeth Ann i ateb y gnoc.

"Tyd i mewn, George.  Dw i heb dy weld di ers talwm.  Beth sy'n dod â thi yma ar ddiwrnod braf fel hyn?"

Daeth George i mewn - bob chwe throedfedd ohono - yn ei wisg swyddogol rhingyll yr heddlu.

"Ddoe mi gollodd John Jones Fferm Heol Miaren, ei darw -  tarw buddugol sioe genedlaethol y llynedd.  Gwelodd o rywun oedd yn dringo ar y giât.  Rhywun efo helmed binc.  Wedyn diflannodd yr helmed binc, ond roedd y giât ar agor a diflannodd ei darw buddugol hefyd.  Unrhyw syniadau o gwbl?" gofynnodd, wrth droi i edrych ym myw llygad y ferch yn y dracwisg binc.

2019

 

bottom of page