top of page
Frederick

(1)

 

Deffrodd yn gynnar ar fore heulog.  Cwpwl o funudau efo’i lygaid ar gau’n dynn a byddai Frederick yn diflannu am ddiwrnod arall a byddai Geraint yn cymryd drosodd unwaith eto.

 

Dyn pum deg oed, tâl, hunanfeddiannol oedd Geraint, unwaith mae o wedi cael gwared arno fo.

 

Roedd o wedi gadael ei waith am byth ar ôl y ddamwain a anafodd ei ffrind a’i gydweithwraig Susan.  Ond ei ffrind o oedd Susan wedi bod, nid ffrind Geraint.  Roedd o wedi symud o bentref ochr arall y mynydd, dim ond dwy filltir i ffwrdd, llwybr brân.  Roedd yn hapus yn ei fwthyn i fyny’r lôn ar gyrion y gymuned.  Roedd yn debyg iawn, i’r sylwedydd cyffredin, i’w hen dŷ, ond yn wynebu’r cyfeiriad gwrthwyneb, ac nid yn ddaearyddol yn unig ym meddwl Geraint.  Oedd, roedd yn hapus iawn yno – ar ôl i Frederick gilio bob bore.

 

Doedd gan Geraint ddim teulu nac anifail anwes i rannu ei dŷ, ond yn ei ardd daclus iawn roedd ambell ymwelwr bron bob dydd.  Roedd o’n gwybod pa fath o bethau i’w tyfu er mwyn eu atynnu nhw.  Fel ei ffrindiau newydd dynol yn y pentref, roedd yn hapus yn eu cwmni, ond rannai mo’i gartref efo nhw.  Cadw pawb hyd braich, ar ei delerau ei hun – dyna’r ffordd fwya’ diogel.

 

Oedd, roedd gelynion hefyd, ffrindiau Susan a Frederick a lenwodd ei galon efo ofn o’u cyfarfod nhw.  Ond doedd ’na ddim rhaid i Geraint feddwl amdanyn nhw.  Dyna oedd rhaid iddo ei wybod – ei wybod heb ei feddwl, heb sôn am ddweud.

 

Roedd hoff fiwsig Geraint – yr hen glasuron roc, dim byd o’r ugain mlynedd diwetha’  – ffordd o gladdu Frederick dan haen arall, rhag ofn i hen deimladau fygwth ymddangos.  Cadw popeth mewn trefn – dyna’r ffordd i ymdopi.

 

Cael gwared ar Frederick yn gyfan gwbl oedd ei uchelgais ond allai o ddim cyffesu hynny, hyd yn oed iddo’i hun.  Byddai hynny’n golygu galw ei enw i feddwl.

 

Popeth yn daclus – dyna’r ffordd, a chadw popeth dan reolaeth.

 

 

(2)

 

Ar ben y lôn trodd wyneb y ffordd o darmac i ro, ac o ro i bridd.  Dros y gamfa ac ar hyd y llwybr rhwng llwyni eithin hyd at y fforch.  I’r dde roedd o’n nabod pob troad a phob cyffordd.  Arweiniai pob un llwybr at bentrefan gwahanol yn y dyffryn – pump ohonyn nhw:  Hafodraethnen, Penbwlch, Dwrgwyn, Llanfenaia ac Erwyllt, pob un efo’i olygfeydd, synau ac aroglau ei hun – cyn ymuno â’r ffordd i lawr, yn ôl i’r pentref.  Roedd o wedi eu cerdded nhw i gyd, mwy nag unwaith.  Prin aeth wythnos heibio heb ei gerdded i’r pentrefan agosaf ar ddiwrnod gwlyb, neu’r un pellaf ar ddiwrnod sych.  Dyna oedd y ddau efo tafarnau.

 

Gwyddai o fap, bod y llwybrau niferus rhwyllog i’r chwith yn arwain i gyd at yr hen bentref, yr un nad oedd o’n ddigon dewr i’w enwi iddo’i hun bellach.  Roedd tŷ Susan ar ben lôn ar lethr uwchben y pentref hwn – yn ddrych-ddelwedd o’i dŷ ei hun.  Efallai bod y llwybrau i’r chwith ar fap, ond ardal lwyd, niwlog, aneglur oedd hi yn haenau uchaf ymwybyddiaeth Geraint.

 

Troi i’r dde bob tro – dyna’i arfer heb feddwl.

 

 

(3)

 

Allai Geraint ddim wynebu neb o gwbl heddiw, ond roedd yr haul yn tywynnu ac roedd angen awyr iach arno.  Roedd bachgen y siop bapur wedi gadael Y Ddolen yn ei flwch post ger y giât.  Ar ôl iddo ddarllen popeth o ddiddordeb, cafodd ei sylw ei dynnu at yr horosgôp.  Cyn i’w hun resymegol wrthwynebu, darllenodd, “Mae heddiw yn ddiwrnod i’w chwarae’n ddiogel a gohirio unrhyw benderfyniad peryglus.”  Ni allai helpu ei hun rhag cytuno, er gwaethaf ei ddiflastod – na, atgasedd – tuag at y syniad o dwyllwr yn dylanwadu ar ymddygiad y rhai gwan-feddwl.  Ni allai gyfaddef iddo’i hun ei fod yn anobeithiol o gaeth i unrhyw wendid.  Teimlodd fel lluchio’r papur dros y ’stafell, ond ei blygu’n daclus y gwnaeth o a’i roi i ffwrdd i’w ailgylchu.

 

Estynnodd am ei ’sgidiau cerdded a’i gôt law, cloi’r drws a brasgamu i fyny’r allt.  Byddai’n dda cael cinio mewn un o’r tafarndai clyd i lawr yn y dyffryn ar ei ffordd adra, ar ôl magu archwaeth – Y Gyrwyr yn Hafodraethnen efo’i dwy stafell dywyll, Y Gwalch Bach yn Erwyllt efo’i gardd gwrw, neu’r Olwyn Ddŵr i lawr yn y pentref efo’i hoff gwrw “Abergofaint”.

 

Cyrhaeddodd y fforch yn y llwybr, ei ben yn llawn o’r ymadrodd “chwarae’n ddiogel”, yn meddwl am dafarn glyd a’r ffordd saff adra.  Pa un o’r pum llwybr fyddai’r un gorau heddiw?

 

Meddyliodd unwaith eto am yr horosgôp, cymerodd anadl ddofn a throdd i’r chwith.

2018

bottom of page