top of page

Diwrnod Pwysig
(1)

Canodd y cloc larwm cyn i lygedyn lleiaf o haul y bore ymwasgu i mewn heibio ymylon y llenni.

Ymbalfalodd bysedd ei throed de i droi eu sliper rownd a llithro i mewn iddi.  Pam roedd hi wedi deffro mor gynnar?  Ymddiriedai ynddi hi ei hun, neu yn yr Elin arall – Elin y neithiwr – mewn sicrwydd bod y wybodaeth ar ei ffordd trwy niwl olion trwmgwsg.  Roedd yn siŵr o gyrraedd cyn i’r troed chwith gyflawni’r un llwyddiant â’i bartner.

Ond arnofiodd balŵn y darn penodol hwnnw o wybodaeth i ffwrdd cyn iddi afael ar ei linyn llyfn.  Eto ni feiddiodd hi amau barn gosodwr y larwm, preswylydd byd doeth blaen-gynllunio.

Nid cynhesrwydd go iawn a gynigiodd y slipers agored, ond trwy eu meddalrwydd cafodd hi ei hachub rhag gorfod rhoi ei thraed ar y llawr oer.  Wedi’i harfogi, felly, efo dau ddarn bach glas o ffwr ffug, mi allai hi wynebu’r dydd.

O ba uchder bynnag gyrhaeddodd y balŵn eiliadau yn ôl, disgynnodd defnynnau deall arni hi am bwysigrwydd y diwrnod a’i chychwyn cynnar.

Gwraig oedd Elin, a mam i dri o blant oedd wedi gadael y nyth.  Roedd hi wedi dod i arfer â pheidio bod ar ddyletswydd bob amser bwyd, na bod yn gyfrifol am i bawb adael mewn da bryd a chyda’u holl offer.  Yn ddiweddar, roedd eu hymweliadau gwibiog wedi dod yn norm newydd.  Ond teimlai eu gweld nhw ar eu tiriogaeth eu hunain yn rhyfeddol iawn o hyd.  Ac addawai heddiw fod y diwrnod mwya’ rhyfeddol erioed.

 

 

 

(2)

Daeth Gwyn i mewn ar ôl ei redeg boreol, yn dilyn ei drefn arferol ond dwy awr yn gynharach y tro ’ma.  Doedd 'na ddim anarferol mewn gadael y tŷ dan dywyllwch cymharol, ond ar ôl cwblhau ei hoff gwrs, teimlai dychwelyd i fyny Lôn y Dihangwyr cyn i'r haul godi yn iasol.  Dechreuodd ddeall pam roedd yr enw wedi goroesi ymdrechion i'w foderneiddio neu’i Seisnigeiddio, gan ddianc rhag tynged llawer o enwau lleoedd yr ardal.

Yn ôl y chwedlau, i fyny'r lôn hwn y dihangodd ffoaduriaid o flaen y près.  Cafodd ystâd dai newydd, gan gynnwys tŷ cyfforddus Glyn, ei hadeiladu ar safle hen goedwig drwchus.  Soniai'r un hen storïau am byllau dwfn wedi'u palu gan ddynion y pentref, er mwyn dal eu herlynyddion.

Roedd cyrraedd pen y lôn wedi bod yn rhyddhad mawr, ond ni fyddai unrhyw ddianc iddo rhag ei ddyletswyddau heddiw.  Diddymwyd presio mwy na dau gan mlynedd yn ôl, a chliriwyd yr hen goedwig oherwydd y galw am dai, ond arhosodd pydewau maglu o flaen Gwyn, cyn machlud yr un haul oedd ar fin arddangos.

Wrth iddo ailhydradu ei hun yn y gegin, clywodd Elin yn ymysgwyd yn y llofft uwchben.  Roedd ganddo ras arall rŵan - am y gawod.

 

 

 

(3)

Deffrodd Siân wrth ymyl Chris, wrth ei bodd o fod wedi torri traddodiad cysegredig arall.  Hongiai dillad mawreddog eu priodas ar gefn yr un drws, yn aros am eu hymddangosiad cyhoeddus cyntaf.

Roedd hi eisoes wedi torri rheolau ei theulu a’i chapel, ond rô’n nhw’n byw mewn byd modern.  Ni fyddai’r genhedlaeth nesa malio dim am y pethau tarfodd ar ei rhieni ac ychydig yn unig o’i hen ffrindiau, hyd yn oed credoau dwfn.  Ond gallai rhywbeth mor ddibwys â gweld eich partner ar ddiwrnod y briodas cyn i’r seremoni ddigwydd anfon pobl i ffit apoplectig.  Aeth gwefr trwyddi o feddwl am gael cawodd efo’i gilydd a helpu’i gilydd i wisgo.

Teimlai fod ei brodyr, Jac a Wil, yn gefn iddi.  Roedden nhw’n hapus i fod yn dywyswyr oherwydd ymarferoldeb yn hytrach na thraddodiad neu statws.  A byddai’r caead ar eu newyddion nhw yn cael ei godi cyn diwedd y dathliadau.

Ond roedd hi’n poeni am ei thad, ar wahân i’w gredoau.  Sut y gallai rhywun mor huawdl a difyr yn y Gymraeg fod mor dafodrwym ac yn embaras yn y Saesneg?

 

 

 

(4)

“Wel, aeth hynny’n llawer gwell nag o’n i’n disgwyl,” meddai Elin yn y car ar eu ffordd adre’.

“Diolch yn fawr iawn am dy bleidlais o hyder yndda i!”

“Ti’n gwybod yn union be’ dw i’n ei olygu.  Ar ôl y nerfau cychwynnol, gest ti nhw i gyd yng nghledr dy law.  Ac aeth dy storïau am Siân i lawr i’r dim, yn ddigon agos at y marc i beri i bawb chwerthin, heb fod yn greulon tuag ati.  Ac o’t ti’n groesawgar iawn i Chris a’r holl lwyth o Lundain.”

“Mi wnes i fwynhau fy hun mewn gwirionedd.  Ac wedyn, dyna gael llongyfarchiadau’r bechgyn ar eu cyhoeddiadau.  Roedd yn werth chweil buddsoddi mewn siwt newydd.”

“O leia’ fydd dim rhaid i ti gymoni araith Tad y Briodferch ar eu cyfer nhw.  Felly, mae dy holl bryderon drosodd rŵan.”

“Go brin!”

“Be’ ’ ti’n feddwl?”

“Beth am y Blaenoriaid bore ’fory?”

“Beth amdanyn nhw?”

“Maen nhw’n sicr o ofyn sut dreuliais i ddydd Sadwrn heulog fel hyn.  Maen nhw wedi mynd yn oerach tuag ata’i o radd i radd, wythnos ar ôl wythnos.  Yn gyntaf pan wnaeth y plant roi’r gorau i fynychu’r gwasanaethau.  Wedyn pan ddewison nhw bartneriaid o Saeson uniaith.  Heb sôn am yr amser symudon nhw i mewn efo nhw.  Syrthiodd y tymheredd eto pan aethon nhw dros y ffin i fyw.”

“Mae’n ofnadwy o rewllyd cyn yr oedfa, yn eistedd efo nhw yn y sêt fawr cyn i mi ddringo grisiau’r pulpud.  Maen nhw’n gofyn tryw’r amser pryd y mae’r plant yn mynd i briodi.  Sut yn y byd ydw i am ddweud wrthyn nhw bod fy merch wedi priodi gwraig?”

2018

bottom of page