top of page

CYRRAEDD

O’r cychwyn medrai weld pen ei daith – tua phedair milltir i ffwrdd ar draws y tir agored, diffaith.  Doedd dim safle arall cyn ei gyrchfan i’r bws aros arno.  Trodd meddyliau Gwilym i ystyried pa mor bell roedd o wedi teithio a sut roedd bywyd wedi dod â fo mor agos at ei nod.

Roedd y bws yr un glanaf iddo fod arno erioed.  Myfyriai am y gwahaniaeth rhwng y bws hwn a rhai ei blentyndod, a hyd yn oed rhai heddiw yn y ddinas wrth iddo feddwl am y peth.  Roedd yn ei atgoffa o fynd efo’i fam i mewn i’r dre, a’r tro cyntaf iddo deithio heb fod yng nghwmni oedolyn – cam enfawr pan oedd o’n ddeg oed.  Llifai atgofion i mewn o’r adeg y teithiodd ar ei wyliau ar ei ben ei hun, gan fod i ffwrdd o gartref am ddwy wythnos.

Meddyliai am yr adeg honno y gadawodd ei gartref a’i deulu i ddechrau ei yrfa.  Medrai weld ar wynebau ei rieni’r cymysgedd o falchder a siom oedd yn eu calonnau.  “Baset ti wedi bod yn feddyg da, ’sti,” meddai’i fam yn ei glust o hyd.

Meddyliai am y cannoedd o filltiroedd ar droed, ac mewn pob math dychmygadwy o gludiant, dan hyfforddiant yn gyntaf ac wedyn wrth wasanaethu dros y Wlad.  Meddyliai am y miloedd o filltiroedd roedd o wedi’u hedfan fel peilot, mewn hofrenyddion ac mewn awyrennau siet uwchsonig.

Roedd yn amhosib cofio am ei orchestion heb gofio am y ffrindiau roedd o wedi eu colli ar hyd y ffordd at heddiw.

Meddyliodd Gwilym am y trawsnewid rhan-eiliad o sgrechian trwy’r awyr wedi’i amgylchynu gan dechnoleg gwerth miliynau o bunnoedd, i ddisgyn i’r ddaear wrth hongian o dan ganopi ffabrig meddal.  Gwnaeth meddwl am y trosglwyddiad sydyn hwnnw iddo sylweddoli na fyddai neb yn ei glywed y tro nesa iddo basio uwchben gwledydd ei brofiadau dwysaf erioed.

Dychwelodd ei feddyliau at ei daith yma, allan yn yr anialwch.  Wrth iddo edrych i gyfeiriad ffrynt y bws, mi welodd y lle a gynlluniwyd i ddal bagiau.  Roedd Gwilym wedi pacio cyn lleied y tro ’ma, ond ni fedrai neb ddweud fod o’n teithio’n ysgafn.

Arafodd y bws yn esmwyth cyn mynd dros y stribedi rymblo a’r rampiau bas.  Roedd wedi cyrraedd.  Faint o filoedd o filltiroedd oedd tu ôl iddo dros ei ddeng mlynedd ar hugain?  Ond pa mor ychydig oeddan nhw o’u cymharu â’r rhai oedd o’i flaen!

Oedd.  Roedd o wedi cyrraedd.  Dim ond ychydig gamau oedd ar ôl, rhwng stepen y bws a drws y lifft.  Arhosai ei gapsiwl amdano fo ar ben y roced oedd yn sefyll ar y pad lansio.

bottom of page