top of page
The Dog Walkers
Meirion Ginsberg 2108
Oil on canvas
£3,500

Diwrnod braf arall.  Mae’r haul yn tywynnu.  Mae’r glaswellt yn edrych yn flasus efo’i flodau main oren.  Y drwg ydy y bydd o yma cyn hir – dyma fo, ar y gair – y dyn gwallgof efo’i gamera.

 

Mae gynno fo rywbeth am geffylau a chŵn ac wynebau pobl.  Bob dydd a’r haul yn sbïo allan o’r cymylau gwlanog, mae o yno yn gwneud ymdrechion chwerthinllyd i gael llun ohona i efo rhyw gi neu berson neu aderyn yn y pictiwr.  Wel pob lwc iddo heddiw!  Os dydy o ddim am gael pelydrau’r haul yn ei lens y bore ’ma bydd rhaid iddo dynnu llun o fy ffolen!

 

Dyna nhw – amser i fi droi rownd ac edrych yn ddiflas iawn.  Y peth ydy, mi alla i weld yr hyn sydd y tu ôl i mi.  Gobeithio bydd eu llwybrau ddim yn croesi ar unrhyw bwynt sy’n gwneud llun diddorol iddo.

 

Mae’r cŵn yn fywiog heddiw. Mae’r ddau efo’r dyn yn gwneud iddo gerdded fel tasai’n gwthio coets baban neu beiriant torri lawnt.  Mae’r un mawr, swnllyd yn edrych yn grac fel arfer wrth fod o fewn pymtheg llath i’r lleill.  Ond ’sdim ots i’r fenyw sy’n gadael iddo redeg lle bynnag y mae’n ei siwtio.

 

Da iawn, fachgen, cymer gam ymlaen a sefyll yn stond o flaen y ffotograffydd a difetha ei lun efo dy grys-t siarc.  Gobeithio bydd tennyn dy ddaeargi tarw yn maglu ei goesau.

 

O edrychwch!  Mae’r ci swnllyd wedi tarfu ar sguthan sy’n hedfan dros ei lun.  Dyna ni – storm berffaith o ddryswch.

 

O na!  Dyna nhw i gyd yn yr un ffrâm â fi!  Yn gyflym!  ’Drycha i ffwrdd!  ’Ymddangosa’n ddiflas!  Rhy hwyr!

 

O! nid yn deulu dedwydd – y daethon

Ond dyna hwy beunydd

Rhyngof a’m ceffyl hollol lonydd

O flaen fy lens a luniwyd

2019

bottom of page